Nodiadau'r Grŵp Trawsbleidiol ar Nyrsio a Bydwreigiaeth
9 Mawrth 2016
Ystafelloedd Cynadledda C a D, Tŷ Hywel
8am-9am
Yn bresennol:
- Julie Morgan AC, Cadeirydd
- Kirsty Williams AC
- David Rees AC
- Dr Martin Steggall, Deon, Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru
- Francesca Elner, Aelod o Bwyllgor Myfyrwyr y Coleg Nyrsio Brenhinol
- Andrea Gristock, Cyfarwyddwr Cynorthwyol ar gyfer Gwella Ansawdd a Llywodraethu Clinigol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf
- Catherine Dew, Pennaeth Gofal a Phrofiad Cleifion, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf
- Helen Whyley, Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Heather Waterman, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd
- Dr Jayne Cutter, Pennaeth yr Adran Nyrsio, Prifysgol Abertawe
- Dr Susan Darra, Pennaeth Addysg Bydwreigiaeth ac LME, Prifysgol Abertawe
- Dr Elizabeth Mason, Dirprwy Bennaeth Ysgol Addysgu a Dysgu, yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd a'r Ysgol Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Bangor
- Richard Jones MBE, Aelod o'r Cyngor ac Aelod o'r Bwrdd, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Tina Donnelly CBE, TD, DL, CCMI, Ysgrifennydd y Grŵp a Chyfarwyddwr, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Gareth Phillips, Aelod o'r Bwrdd, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Liz Rees, Aelod o'r Bwrdd, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Alison Davies, Cyfarwyddwr Cyswllt (Ymarfer Proffesiynol), Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Annie Muyang, Cynorthwyydd Polisi a Materion Cyhoeddus, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
- Helen West, Swyddfa Julie Morgan
- Nancy Cavill, Swyddfa Julie Morgan
1. Croeso gan Julie Morgan AC, y Cadeirydd
Croesawodd Julie Morgan AC y cynrychiolwyr i'r cyfarfod.
2. Sylwadau agoriadol gan Tina Donnelly CBE, TD, DL, CCMI, Cyfarwyddwr, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Gwnaeth Tina Donnelly ddatganiad agoriadol ar y bwrsari myfyrwyr nyrsio, a sut y mae'n galluogi myfyrwyr nyrsio i ymrwymo'n llawn i astudio mewn lleoliad academaidd a lleoliad clinigol, gan ddangos sut y mae hyn yn wahanol i fod yn fyfyriwr arferol.
3. Dr Martin Steggall, Deon, Cyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg, Prifysgol De Cymru
Dechreuodd Dr Steggall drwy ddweud bod ansicrwydd o ran sut y bydd y newid i gyllid myfyrwyr nyrsio yn effeithio ar Gymru, o'i gymharu â'r sefyllfa bresennol yn Lloegr, lle y mae disgwyl i fyfyrwyr fod mewn sefyllfa waeth. Dywedodd Dr Steggall hefyd y byddai canlyniadau anfwriadol i rai grwpiau fel myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig.
O ran cael gwared ar y terfyn ar y niferoedd ar gyrsiau nyrsio mewn prifysgolion, ni fyddai hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y nyrsys oherwydd na fyddai digon o leoliadau clinigol i'w cefnogi. Ymhellach, nododd Dr Steggall, o ystyried y cynnydd mewn ffioedd prifysgol yng Nghymru, y gallai'r Byrddau Iechyd Prifysgol elwa oherwydd y gallai prifysgolion neilltuo'r rhan honno o'r ffi dysgu uwch i gefnogi hyfforddiant pellach ac arfer.
4. Francesca Elner, Aelod o Bwyllgor Cyngor Myfyrwyr Cymru, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Dechreuodd Francesca drwy ailadrodd pwynt Tina Donnelly bod myfyrwyr nyrsio yn wahanol i fyfyrwyr prifysgol eraill, sy'n aml yn dod â chyfoeth o brofiadau bywyd wrth iddynt astudio ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Mae'r bygythiad i'r bwrsari yn debygol o atal darpar fyfyrwyr sy'n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, sy'n amrywio o fyfyrwyr aeddfed i bobl sydd eisoes â gradd prifysgol mewn pwnc arall.
Mewn ymateb i bwynt Dr Steggall ynghylch cael gwared ar y terfyn ar y niferoedd ar gyrsiau nyrsio, mynegodd Francesca ei phryderon fod lleoliadau yn cael trafferth gyda'u niferoedd presennol. Byddai unrhyw gynnydd yn niferoedd myfyrwyr o ganlyniad i hyn yn arwain at bwysau cynyddol, ac o ganlyniad yn peryglu diogelwch cleifion.
5. Agor i drafodaeth
Yn dilyn y cyflwyniadau hyn, cadeiriodd Julie Morgan AC drafodaeth fywiog gyda'r cyfranogwyr ynghylch cyllid myfyrwyr nyrsio a chynllunio'r gweithlu yn y dyfodol. Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y posibilrwydd o golli dawn myfyrwyr nyrsio yn astudio yng Nghymru ond yn symud i weithio mewn lleoedd eraill, y posibilrwydd o atal myfyrwyr aeddfed a myfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig rhag nyrsio yn sgil cael gwared ar y bwrsari, defnyddio system draddodiadol o fenthyciadau myfyrwyr, a pha mor gynaliadwy yw'r system bresennol o gyllid myfyrwyr yng Nghymru a sut y gellir gwneud aros yng Nghymru ar ôl gorffen astudio yn fwy deniadol i ddarpar fyfyrwyr.
6. Sylwadau i gloi a diolchiadau gan Tina Donnelly CBE, TD, DL, CCMI, Cyfarwyddwr, Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Rhoddodd Tina Donnelly ddiolchiadau ffurfiol i'r grŵp trawsbleidiol.